Cyngor Cymuned Trefriw

Datganiad Preifatrwydd |Telerau defnyddio

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

Prynu bedd

Mae’r rhan fwyaf o’r beddau’n cael eu prynu adeg y gladdedigaeth, fel arfer trwy ymgymerwr angladdau, a fydd yn pwrcasu’r bedd ar eich rhan fel rhan o drefniadau’r angladd. Fe gewch hefyd bwrcasu’n uniongyrchol oddi wrth y Cyngor.

Yn y gorffennol, fe all y byddai beddau wedi’u prynu flynyddoedd ymlaen llaw, cyn claddedigaeth, ac yn aml, byddai pobl yn pwrcasu man claddu os eu dymuniad oedd cael eu claddu ger eu hanwyliaid neu mewn rhan neilltuol o’r fynwent. Oherwydd y prinder tir ar gyfer claddedigaethau hyn o bryd, mae’r Cyngor wedi penderfynu peidio â gwerthu beddau ymlaen llaw mwyach.

Os ydych yn berchen bedd, dywedwch wrthyn ni ynglŷn ag unrhyw newidiadau cyfeiriad er mwyn inni allu cadw’n cofnodion yn gyfredol.


Cliciwch ar y ddolen I lawrlwytho cynllun o  FYNWENT TREFRIW

Hawl Neilltuedig i Gladdu

Gelwir y person sy’n rhoi ar brydles yr Hawl Neilltuedig i Gladdu y Grantî. Mae’r gyfraith yn ei gwneud hi’n ofynnol cael caniatâd ysgrifenedig y Grantî cyn y caiff unrhyw gladdedigaeth ddigwydd yn y bedd neilltuol hwnnw, oni bai mai’r Grantî sydd i’w gladdu. Mae tybiaeth yn y gyfraith fod hawl gan y Grantî i’w gladdu/ei chladdu yn y bedd sy’n berchen iddyn nhw, gyda bod y bedd yn addas ar gyfer claddedigaethau pellach.


Maint Hawliau’r Pwrcaswr

Pan fyddwch yn prynu bedd, dydych chi ddim yn prynu’r tir lle saif y bedd; yn hytrach, talu byddwch chi am rentu ar brydles yr Hawl Neilltuedig i Gladdu am gyfnod penodol, fel arfer yn 100 mlynedd. Dydi perchnogaeth yr Hawl Neilltuedig i Gladdu ddim yn arwyddo perchnogaeth y tir ei hun na’r hawl i gynnal unrhyw weithgarwch neilltuol ar fan y bedd. Mae’r tir yn parhau yn eiddo i Gyngor Cymuned Trefriw. Mae perchnogaeth, fodd bynnag, yn caniatáu i’r perchennog benderfynu pwy gaiff ei gladdu yno.


Nôl i’r cychwyn

Gweithred Grant Hawl Neilltuedig i Gladdu

Mae’r Weithred Grant yn ddogfen bwysig a dylid ei gadw. Fe restrir isod fe welir rhai eitemau o wybodaeth yn ymwneud â hawliau a chyfrifoldebau cysylltiol y person a enwir ar y Weithred.

Defnydd y Bedd ar gyfer Claddedigaeth

Lle y rhoddwyd yr Hawl Neilltuedig i Gladdu mewn perthynas â’r bedd ac y derbynnir cais i’w baratoi ar gyfer claddedigaeth, rhaid cyflwyno’r Weithred Grant i’r Clerc.

Os collir y Weithred Grant, rhaid i’r person sy’n gwneud y cais am agor y bedd wneud datganiad ysgrifenedig yn nodi eu bod â’r hawl i wneud hynny. Dydi bod yn berchen ar Weithred ddim ynddo’i hun yn rhoi’r hawl i agor bedd i unrhyw berson. Mae’r hawl honno yn gorwedd yn unig gyda’r person a enwir ar y Weithred fel perchennog yr Hawl Neilltuedig i Gladdu yn y bedd hwnnw.

Adnewyddu Hawl Neilltuedig i Gladdu

Fe roddir Hawl Neilltuedig i Gladdu am gyfnodau o 100 mlynedd yn unig. Wedi diwedd cyfnod o’r fath, anfonir llythyr yn hysbysu hyn at y person a enwir ar y weithred i’r cyfeiriad olaf y gwyddys amdano. Mae modd wedyn adnewyddu’r Hawl Neilltuedig i Gladdu ar y cyfraddau pwrcasu sy’n berthnasol ar y pryd. Mae’n bwysig, felly, eich bod yn ein hysbysu am unrhyw newid cyfeiriad, a hynny’n ysgrifenedig, er mwyn inni allu diweddaru’n cofnodion.   

Lle y gwneir cais i ddefnyddio’r bedd ar gyfer claddedigaeth neu i godi carreg goffa wedi i hawliau claddu ddod i ben, fe all y bydd hi’n bosib cael adnewyddiad wedi’i ôl-ddyddio.

Mewn ymateb i ymholiadau blaenorol, nodwch, er i Hawl Neilltuedig i Gladdu cael ei ganiatáu am gyfnod o 100 mlynedd, nad ydi hyn yn awgrymu unrhyw fwriad ar ein rhan ni i ailwerthu’r bedd neu ei ail-ddefnyddio mewn unrhyw ffordd a fyddai’n achosi unrhyw amharu ar weddillion dynol, nag i symud unrhyw gofeb, oni bai am resymau diogelwch.

Nôl i’r cychwyn

Trosglwyddo Hawl Neilltuedig i Gladdu

Os dymunwch drosglwyddo’r Hawl Neilltuedig i Gladdu i berson arall, cewch wneud hynny trwy gyfrwng ffurflen sydd i’w gael yma neu gan y Clerc. Fe godir tâl gweinyddu bach ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae’n bwysig nodi nad ydi trosglwyddo Hawl Neilltuedig i Gladdu yn newid dyddiad dod-i-ben yr Hawl i Gladdu gwreiddiol.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynglŷn â phrynu bedd neu osod carreg goffa ar un sy’n berchen ichi yn barod, cysylltwch â’r Clerc.

Mr Andrew Bradshaw

Clerc y Cyngor,

Cyngor Cymuned Trefriw,

Dwyrain,

Trefriw,

Conwy,

LL27 0JU.

Lawrlwythwch y gyfradd ffioedd ar gyfer Mynwent Gyhoeddus Trefriw a Llanrhychwyn o’r fan yma.

Nôl i’r cychwyn

English