Cyngor Cymuned Trefriw

Datganiad Preifatrwydd |Telerau defnyddio

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

wastadol i gerddwyr. Mae maes parcio drws nesaf i’r fynwent ar gyfer pobl sy’n mynychu angladdau a gofalu am feddau

Prynu bedd

Oherwydd y prinder tir ar gyfer claddedigaethau ar hyn o bryd, mae’r Cyngor wedi penderfynu peidio â gwerthu beddau ymlaen llaw bellach, ond os oes angen ichi brynu plot claddu neu amlosgiad neu osod maen coffa anwylyn, cysylltwch â’r Clerc. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrynu bedd, cliciwch yma.

Cofnodion y Fynwent

Ydych chi’n berchen â phlot neu a oes gynnoch chi deulu wedi’u claddu ym Mynwent Trefriw? Os felly, a chithau heb eto ddweud wrth y cyngor am unrhyw newidiadau cyfeiriad neu berchnogaeth, cysylltwch â’r Clerc er mwyn inni allu diweddaru’n cofnodion.

Fe gewch archwilio cofnodion a chynllun y fynwent yn ddi-dâl. Cysylltwch â’r Clerc am apwyntiad.


Mynwent Trefriw

Prynwyd y tir ar gyfer Mynwent Trefriw gan Gyd-fwrdd Claddu Trefriw a Llanrhychwyn oddi wrth Iarll Ancaster ym 1893, er bod cofnodion yn dangos i’r gladdedigaeth gyntaf ddigwydd ym 1880. Cymerodd Gyngor Cymuned Trefriw gyfrifoldeb am y fynwent ym 1987. Mae’n gweithredu fel yr Awdurdod Claddu ac yn gyfrifol am reolaeth a chynhaliaeth y man claddu.

Yn 2011, heb fawr o le’n weddill ar gyfer claddedigaethau yn y dyfodol, prynodd y Cyngor Cymuned ddarn o dir cyfagos er mwyn ehangu’r fynwent. Yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ein bwriad ydi datblygu’r ardal hon yn gymydog teilwng i’r fynwent wreiddiol. Bydd y cyngor yn ceisio grantiau i ariannu’r rhan fwyaf o’r gost. Cadwch olwg allan am fwy o newyddion yn y dyfodol.

Mynediad

Mae Mynwent Gyhoeddus Trefriw a Llanrhychwyn ar agor yn

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

English