Cyngor Cymuned Trefriw

Datganiad Preifatrwydd |Telerau defnyddio

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

Ymgynghoriad Mynwent Trefriw 2013  

Canlyniadau

Yn ystod mis Chwefror, ymghynghorodd y Cyngor Cymuned â thrigolion a pherchnogion beddau ym Mynwent Tefriw ynglŷn â chynlluniau ar gyfer yr hen fynwent a’r est gan y Cynghorwyr a’r staff ac o’r rhain, fe dderbyniwyd 81 yn ôl. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl a ymatebodd o blaid y newidiadau yng nghynllun y cyngor, gydag 88% o blaid cysgodfa, 84% o blaid byrddau gwybodaeth, 90% o blaid llwyni blodeuog i annog bywyd gwyllt ac 81% o blaid creu “gwestai chwilod”, eto er mwyn annog bywyd gwyllt.

Y gŵyn gafwyd amlaf oedd ynglŷn â chyflwr y maes parcio, y mae’r cyngor yn bwriadu ei uwchraddio fel rhan o’r gwaith.

Awgrymodd rhai pobl y dylid cael mynedfa uniongyrchol o’r maes parcio i’r fynwent. Mae’r cyngor wedi edrych ar hyn ond yn ei weld yn anymarferol oherwydd y gwahaniaeth mawr yn lefelau daear y ddwy ran. Gwelliant i’r giât i gerddwyr presennol ydi’r unig opsiwn sy’n weddill.

Cafwyd niferoedd calonogol o bobl yn cynnig dod yn “Gyfeillion” y fynwent, un ai trwy roi o’u hamser i wneud gwaith gwirfoddol neu trwy rodd flynyddol.

English

Newyddion am y Fynwent

Newidiadau i amodau prydlesau lleiniau beddi ym mynwent Trefriw.

Mae Cyngor Cymuned Trefriw, sy’n gyfrifol am Fynwent Trefriw, wedi gwneud newid i’r cyfnod y rhoddir prydlesau yn y fynwent. Hyd at 31 Mawrth 2014, rhoddwyd prydlesau am 100 mlynedd.

O 1 Ebrill 2014, fodd bynnag, rhoddir prydlesau am gyfnod o 50 mlynedd yn unig. Unwaith y bydd prydles yn dod i ben, bydd hawl gan y perchennog ei hadnewyddu am gyfnod o hyd at 50 mlynedd am hanner pris prydles newydd gyfredol.

Ni fydd y newid hwn yn effeithio ar unrhyw un a brynodd brydles cyn 1 Ebrill 2014.

Penderfynodd y Cyngor newid y drefn am ddau reswm.

1. Bydd yn haws i’r Cyngor gysylltu â pherchenogion y beddi, sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r llain a’r maen coffa. Mae’n anodd iawn dilyn hynt perchenogion beddi dros gyfnod o 100 mlynedd.  

2. Bydd y newid o gymorth i gynnal y fynwent. Unig ffynhonnell incwm y fynwent yw prydlesau’r lleiniau beddi a’r meini coffa. Mae’n rhaid i’r fynwent fod yn hunangynhaliol er mwyn sicrhau na rhoddir baich anheg ar dalwyr Treth y Cyngor nad ydynt yn ei defnyddio. Gallai adnewyddu’r prydlesau fod yn un ffordd o wneud hyn.