Cyngor Cymuned Trefriw

Datganiad Preifatrwydd |Telerau defnyddio

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

Cofebion

Mae Cyngor Cymuned Trefriw yn caniatáu’r hawl i godi cofeb ar wahân i’r Hawl Neilltuedig i Gladdu. Caiff y Grantî reoli steil a geiriad unrhyw gofeb a osodir ar y bedd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, rheoliadau cofebion a thaliad ffioedd mynwent. Rhaid gwneud cais ffurfiol i’r Clerc am drwydded, yn rhoi manylion llawn y gofeb.

Fel gyda’r Hawl Neilltuedig i Gladdu, rhaid i’r Grantî roi ei ganiatâd/ei chaniatâd ysgrifenedig cyn y gall unrhyw waith cofeb ddigwydd. Dydi’r hawl i godi cofeb ddim yn dod gyda thybiaeth yn ôl y gyfraith  fod gan y Grantî yr hawl i gael ei gofio/chofio ar gofeb, sy’n golygu, pan fo’r Grantî yn marw, fod rhaid cwblhau trosglwyddiad cyfreithiol perchnogaeth y brydles i’r hawliau hyn cyn gallu cymeradwyo unrhyw waith pellach ar y gofeb.

Mae’r cyfrifoldeb am godi cofeb ar y bedd yn gorwedd gyda’r person a enwir ar y Weithred sydd ynghlwm â hynny. Dylai’r person hwnnw/honno fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o gofeb anniogel yn syrthio ar ymwelwyr â’r fynwent neu staff y fynwent, gyda’r posibilrwydd o ganlyniadau angheuol. Gall hyd yn oed gofebau bychain achosi niwed difrifol i blant ifanc. Mae diogelwch cofebion o bwys mawr i’r cyngor a gall y bydd unrhyw gofeb a ystyrir yn berygl dichonadwy i ddiogelwch gael ei ail-osod neu ei ostwng heb rybudd i’r perchennog. Caiff unrhyw gostau ar ran y cyngor eu codi ar berchennog y bedd.


Cofebion mewn mannau claddu “lawnt”

Yn Ardaloedd Lawnt y fynwent, dydi’r Cyngor ddim yn caniatáu unrhyw eitem oni bai am garreg fedd draddodiadol ar sylfaen neu slab goncrid wedi’i suddo’n is na lefel y ddaear sy’n amgylchynu.

Does dim caniatâd ychwaith i gladdgelloedd, rheiliau, ymylfeini nag unrhyw dir caeedig nag eitemau megis croesau pren, ffensio pren neu synthetig, planhigion planedig, ffiolau, arddangosfeydd blodau, melinau gwynt ayyb. fel nodwedd dros dro na pharhaol.

Gellir gosod plac llawr coffaol (yn amodol ar gymeradwyo’r cais).

Am fanylion llawn, ymgynghorwch â Rheolau’r Fynwent sydd ar gael yma.

Nôl i’r cychwyn

Difrod i Feddau

Ni fydd Cyngor Cymuned Trefriw yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod a achosir i fedd neu gofeb oni bai bod modd profi i’r difrod gael ei achosi fel canlyniad i weithrediadau cynnal a chadw. Argymhellir y dylid yswirio cofebion rhag difrod damweiniol neu fwriadol.

Mae pob ffiol, cerflun, planhigyn a blodeuyn ayyb. a adewir ar feddau yn cael eu gadael ar fentr y perchennog ac fe argymhellir y dylid nodi rhif y bedd ac enw’r ymadawedig ar eitemau symudol o’r fath er mwyn eu hadnabod a lleihau eu gwerth i ladron. Mae’r fynwent yn fwynder cyhoeddus ac fe awgrymir ichi y dylech gymryd yr un gofal o’ch eiddo ag y buasech mewn unrhyw fan gyhoeddus arall. Dylai unrhyw un sy’n dyst i weithred droseddol ar dir y fynwent riportio’r mater i’r heddlu lleol.

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth ynglŷn â phrynu bedd neu osod cofeb ar un sydd eisoes yn perthyn ichi, cysylltwch â’r Clerc.


Mr Andrew Bradshaw,

Cyngor Cymuned Trefriw,

East,

Trefriw,

Conwy,

LL27 0JU.


Rheolau Mynwent Trefriw

Gellir lawrlwytho copi llawn o reoliadau Mynwent Gyhoeddus Trefriw a Llanrhychwyn yma.


Nôl i’r cychwyn


English