Cyngor Cymuned Trefriw

Datganiad Preifatrwydd |Telerau defnyddio

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

News




Maes Hamdden Trefriw a’r Cae Hamdden Newydd  

Mawrth 7 2013

Fel y gŵyr llawer, ers cwblhau Cynllun Atal Llifogydd Dyffryn Conwy, mae Maes Hamdden Trefriw dan ddŵr sawl gwaith y flwyddyn ac wedi’i gywasgu yn ystod y gwaith, yn dioddef draeniad gwael. Mae’r “Cae Hamdden Newydd”, a oedd i fod i ail-gyflwyno cyfleusterau i Drefriw, cynddrwg o ran draeniad. Mae Cyngor Cymuned Trefriw wedi bod mewn trafodaethau hirfaith ac anodd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (AAC) i sicrhau bod y caeau’n dychwelyd i gyflwr sy’n addas i’w defnyddio fel caeau chwarae.

Mae’r cyngor yn ddiweddar wedi derbyn cynnig terfynol gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac mae’n gofyn am eich barn chi. Fe gynhelir cyfarfod Arbennig o’r Cyngor am 7.00yh ar 12fed Mawrth, 2013 yn y Neuadd Bentref. Dewch i gael dweud eich dweud. Cewch weld Agenda’r cyfarfod a rhai ffigyrau perthnasol yma.

Maes Hamdden Trefriw yn derbyn diogelwch brenhinol

Awst 30 2012

Fe ddiogelir Maes Hamdden Trefriw am byth bellach fel rhan o Her Meysydd y Frenhines Elisabeth II, a weithredir gan Fields in Trust (FIT).  Dadorchuddiodd y Cynghorydd Sirol, Hilary Rogers Jones, plac dwyieithog hardd i goffáu’r achlysur.

‘Ym 1897, prynwyd y tir ar gyfer y maes hamdden gan grŵp o ddynion busnes lleol, a osododd gyrtiau tenis, llain fowlio a lawnt croce yno. Mae rhai pobl sy’n parhau i fyw yn y pentref yn dal i’w gofio felly. Yn ddiweddarach, fe’i rhoddwyd i Gyngor Cymuned Trefriw, sy’n parhau i ofalu amdano.’ Dywedodd y Cyngh. Rogers Jones ……darllenwch fwy

English