Cyngor Cymuned Trefriw

Datganiad Preifatrwydd |Telerau defnyddio

©Cyngor Cymuned Trefriw 2014

The Queen Elizabeth II Fields Plaque

Maes Hamdden Trefriw yn derbyn diogelwch brenhinol



Awst 30ain., 2012

Fe ddiogelir Maes Hamdden Trefriw am byth bellach fel rhan o Her Meysydd y Frenhines Elisabeth II, a weithredir gan Fields in Trust (FIT).  Dadorchuddiodd y Cynghorydd Sirol, Hilary Rogers Jones, plac dwyieithog hardd i goffáu’r achlysur.

‘Ym 1897, prynwyd y tir ar gyfer y maes hamdden gan grŵp o ddynion busnes lleol, a osododd gyrtiau tenis, llain fowlio a lawnt croce yno. Mae rhai pobl sy’n parhau i fyw yn y pentref yn dal i’w gofio felly. Yn ddiweddarach, fe’i rhoddwyd i Gyngor Cymuned Trefriw, sy’n parhau i ofalu amdano.’ Dywedodd y Cyngh. Rogers Jones, ‘Mae’r her yn sicrhau bod mannau agored yn cael eu gwarantu ar gyfer y cenedlaethau i ddod ac wrth gofrestru’n maes hamdden  ninnau, mae’r Gymunwedi sicrhau y bydd yn aros yno i’r trigolion ed ac ymwelwyr ei

ddefnyddio.’  Cadeirydd y Cyngor Cymuned Matthew Driver, ‘Yn anffodus, pan osodwyd yr amddiffynfeydd atal llifogydd yn eu lle, holltwyd y Maes Hamdden a’r Parc Chwarae fel ei gilydd wrth i’r clawdd fynd trwy’u canol, gorfodwyd inni ymgorffori rhan o’r Maes Hamdden gyda’r Parc Chwarae er mwyn i’r plant gael man mwy i chwarae ac mae’r ffiniau rhwng y ddau gae wedi mynd braidd yn annelwig. Mae’r gwaith atal llifogydd wedi achosi problemau draeniad yn y ddau lecyn hamdden ac mae brwyn yn tyfu ymhob man. Mae’r cyngor yn parhau i weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Conwy i adfer yr holl ardal o amgylch yr amddiffynfeydd atal llifogydd newydd i gyflwr a fydd yn addas i bwrpas.’

Dywed y Cyngh. Driver, ‘Mae Cyngor Cymuned Trefriw yn hapus y bydd gan y maes hamdden sicrwydd ychwanegol o fod yn rhan o gynllun FIT y Frenhines Elisabeth II. Mae angen diogelu cyfleusterau hamdden i bawb yn y pentref.’

English